Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Rywioldeb Plant – Rhywioli a Chydraddoldeb.

Dyddiad:    23 Medi 2013

Lleoliad:     Tŷ Hywel  Ystafell Gynadledda 24

Yn bresennol: Jocelyn Davies AC (Cadeirydd), Cecile Gwilym (NSPCC), Emma Renold (Prifysgol Caerdydd), Jan Pickles (NSPCC), Meg Kissack (Cymorth i Fenywod Cymru), Tina Reece (Cymorth i Fenywod Cymru), Rebecca Griffiths (Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru), Phil Walker (The Survivor’s Trust), Jim Stewart (Evangelical Wales), Emaline Makin (Evangelical Wales), Keith Watt (Adran Gyfathrebu y Cynulliad), Vicky Evans (Ymchwilydd i Christine Chapman AC), Rob Evans (Ymchwilydd i Rebecca Evans AC), Rhayna Pritchard (Ymchwilydd i Jocelyn Davies AC).

1          Ymddiheuriadau

Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns AC, Keith Towler (Comisiynydd Plant Cymru), Vivienne Laing (NSPCC), Naomi Brightmore (Cymorth i Fenywod Port Talbot), Nicky Warrington (Hafan), Barbara Natasegara (Cymru Ddiogelach) a Jackie Stamp (New Pathways).

2          Croeso

2.1       Dechreuodd Cecile y cyfarfod gan ddiolch i bawb am fod yn bresennol.

3          Trafod fformat y digwyddiad

3.1       Aeth Emma drwy’r rhaglen ddrafft ar gyfer y digwyddiad lansio. Cyflwynwyd syniadau gan y grŵp ar gyfer sesiwn ryngweithiol rhwng plant a’r Gweinidog, ar ffurf sesiwn holi ac ateb. Ychwanegodd Rhayna y byddai’n ofynnol i gytuno ar y cwestiynau ymlaen llaw gyda’r plant, ac i’r Gweinidog fod wedi’i friffio’n llawn ymlaen llaw.

3.2       Soniodd Cecile am yr angen i sicrhau bod Gweinidog ar gael ar gyfer y digwyddiad, oherwydd cysylltwyd â Huw Lewis AC, ond ni allai fod yn bresennol yn y digwyddiad. Rhoddodd Cecile wybod i’r grŵp fod yr NSPCC yn dal i aros am ymateb gan y Gweinidog ynghylch a fyddai modd iddo newid yr ymrwymiadau yn ei ddyddiadur i ddod i’r digwyddiad ai peidio. Penderfynwyd y byddai’r grŵp yn trafod hyn â Jocelyn yn ddiweddarach pan fyddai’r Aelodau Cynulliad yn ymuno â hwy.

3.3       Ychwanegodd Emma y gallai’r Gweinidog fod am wneud anerchiad byr ar ôl y sgwrs â’r plant, ac y dylai’r rhan helaeth o’r gynulleidfa fod yn blant.

3.4       Cytunodd y grŵp y dylid defnyddio sgriniau Powerpoint i ddangos prif ganfyddiadau’r ymchwil.

3.5       Awgrymodd Meg y dylid darparu byrddau yn y digwyddiad er mwyn hwyluso trafodaeth, ar ffurf gweithdai, pan fyddai’r cyflwyniadau wedi dod i ben. Byddai’r drafodaeth hon rhwng y plant a’r gwesteion. Ychwanegodd Jan y gallai fformat ‘speed-dating’ neu ‘gyfarfodydd cyflym’ weithio’n dda.

4          Gwahoddiadau

4.1       Eglurodd Cecile y byddai gwahoddiadau rhyngwyneb aml-gyfryngol manylder uwch yn cael eu hanfon ar gyfer y digwyddiad. Ychwanegodd Rhayna y dylai’r gwahoddiadau ddod oddi wrth Jocelyn, yn ei swydd fel Cadeirydd. Cytunwyd ar hyn.

5          Crynodeb Gweithredol

5.1       Rhoddodd Cecile wybod i’r grŵp nad oedd y crynodeb gweithredol wedi’i gymeradwyo eto. Ychwanegodd Emma fod yr aelodau o’r grŵp trawsbleidiol eisoes wedi cael crynodeb gweithredol yn y cyfarfod trawsbleidiol diwethaf a’u bod yn ymwybodol o gynnwys y gwaith ymchwil. Ychwanegodd Rhayna y byddai’n fuddiol pe bai’r cyfarfod hwn yn trafod logisteg y digwyddiad. Cytunwyd y byddai’r rhai sydd â diddordeb yn cyfarfod i drafod y canfyddiadau yn fanylach mewn cyfarfod ar wahân i’r grŵp trawsbleidiol. 

6          Crynodeb o’r trefniadau ar gyfer Aelodau’r Cynulliad

6.1       Rhoddodd Cecile grynodeb i Jocelyn o’r trefniadau a drafodwyd hyd yma yn y cyfarfod.

7          Cwestiynau ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a rhai a oedd yn bresennol. 

7.1       Awgrymodd Jocelyn y gellid neilltuo grŵp o blant yr un i’r Aelodau Cynulliad a oedd yn bresennol, er mwyn hwyluso trafodaeth â hwy, i rannu cyfrifoldebau ymhlith Aelodau’r Cynulliad ac i sicrhau y byddant yn rhan o’r digwyddiad. Ychwanegodd Jocelyn y gallai panel o Aelodau’r Cynulliad, i gynnwys Christine Chapman AC, Julie Morgan AC, Angela Burns AC, Simon Thomas AC ac Aled Roberts AC o bosibl, weithio’n dda.

7.2       Cytunodd y grŵp y byddai hanner awr yn ddigon o amser i’w neilltuo i’r gweithgaredd ‘cyfarfodydd cyflym’, a bod angen teitl mwy addas ar ei gyfer (yn Saesneg).  Gofynnodd Emma pa ystafelloedd a fyddai ar gael yn y Pierhead ar gyfer y digwyddiad. Eglurodd Rhayna fod y Pierhead yn ei gyfanrwydd wedi’i neilltuo, ac y gallant ddefnyddio cymaint neu gyn lleied o’r adeilad ag y dymunant.

7.3       Nododd Jocelyn y dylid sicrhau nad oes dim alcohol yn cael ei weini yn y digwyddiad, gan y byddai hynny’n amhriodol. Cytunodd y grŵp cyfan ar hynny.

7.4       Amlinellodd Cecile yr anhawster a gawsant i gael Gweinidog i fod yn bresennol yn y digwyddiad, a gofynnodd i Jocelyn am ei barn am hyn.  Awgrymodd Jocelyn y dylid rhoi cyfle i Huw Lewis AC ateb; os nad oedd hynny’n llwyddiannus, dylai’r grŵp ofyn i Ken Skates AC, yn ei swydd fel Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Ychwanegodd Jocelyn bod Ken, fel aelod o’r grŵp trawsbleidiol, yn gefnogol iawn i amcanion y grŵp.  Gorffennodd Jocelyn drwy ddweud, os nad oedd Ken ar gael, y dylai’r grŵp wahodd Lesley Griffiths AC, yn ei swydd fel Gweinidog. 

7.5       Cytunodd Cecile i gysylltu â swyddfa Huw Lewis AC, ac i ddilyn hynny, y byddai’n gwahodd Ken Skates AC.  Cytunwyd, pe bai Cecile yn gofyn, y byddai Jocelyn yn darparu llythyr yn ei chefnogi.

7.6       Cytunodd Jan i drefnu’r digwyddiad ‘cyfarfodydd cyflym’.

7.7       Cytunodd Cecile i anfon y gwahoddiad i Jocelyn i’w wirio cyn ei anfon at bawb. Gofynnodd Cecile i Jocelyn pryd y byddai’r gwahoddiad yn barod, a rhoddodd Jocelyn wybod iddi y byddai’n barod cyn gynted â phosibl.

7.8       Gofynnodd Rhayna a oedd Emma am drefnu i geisio cael sylw gan y cyfryngau. Nododd Cecile y gallai presenoldeb y cyfryngau amharu ar y rhyddid i lefaru. Ychwanegodd Emma y gellid neilltuo ystafell ar wahân ar gyfer cynnal cyfweliadau. Awgrymodd Jocelyn y dylid trefnu digwyddiad lansio swyddogol ar gyfer y cyfryngau yn gynharach yn y dydd, cyn y digwyddiad.

7.9       Gofynnodd Emma a fyddai modd ffilmio’r cyflwyniadau. Ychwanegodd Tina a Meg eu bod hwy wedi trefnu digwyddiad yn y Pierhead ble y cafodd cyflwyniadau eu ffilmio gan gamera a oedd wedi’i osod yn ei unfan.

7.10     Rhoddodd Emma wybod i’r grŵp ei bod hi wrthi’n llunio llyfryn dwyieithog deniadol i’w rannu i’r rhai a fydd bresennol yn y digwyddiad. 

8          Trafodaeth agored ar gyfer rhai o’r tu allan sy’n bresennol.

8.1       Cyrhaeddodd Keith Watt y cyfarfod. Rhoddodd Emma a Cecile y wybodaeth ddiweddaraf i Keith ynglŷn â’r trefniadau a drafodwyd yn y cyfarfod.

8.2       Cytunwyd ar y pwyntiau a ganlyn â Keith.

·         Cyflwyniadau o’r llwyfan - Bydd sleidiau Powerpoint yn cael eu dangos yn y cefndir.

·         Seddi - ar gyfer 100 o bobl mae’n debyg.

·         Byrddau petryal mewn siâp pedol yng nghefn y neuadd ar gyfer math o fformat ‘rhwydweithio cyflym’ ar gyfer Aelodau’r Cynulliad.

·         Bydd Keith yn trefnu cyfieithwyr ar gyfer y diwrnod.

·         Mae’r ddwy ystafell seminar ar y llawr cyntaf eisoes wedi’u neilltuo ar gyfer y digwyddiad, a gellir defnyddio’r ystafelloedd hyn ar gyfer cinio neu fel lle ychwanegol i gynnull, yn ôl y gofyn.

·         Mae’r goeden Nadolig i gael ei gosod yn y Pierhead ar y penwythnos ar ôl y 5ed.

·         O ran ffilmio – ni chynigir y gwasanaeth hwn yn anffodus, ond mae modd i’r trefnwyr wneud eu trefniadau eu hunain os dymunant.

 

8.2       Awgrymodd Emma y dylai’r lluniaeth gael ei ddarparu ar y llawr cyntaf oherwydd byddai hynny’n sicrhau bod pobl yn symud o gwmpas, a fyddai o gymorth i hwyluso sgyrsiau rhyngddynt.

8.3       Cadarnhaodd Rhayna â Keith y byddai angen gwirio’r gwahoddiad a’r rhestr o wahoddedigion cyn anfon y gwahoddiadau. Nododd Cecile y byddai hi’n cysylltu â Rhayna i baratoi’r gwahoddiadau cyn gynted â phosibl.

8.4       Awgrymodd Emma y dylai’r llyfrynnau deniadol gael eu dosbarthu i westeion wrth iddynt gyrraedd. Gofynnodd Keith a fyddai hwn yn ddigwyddiad i rai a gafodd wahoddiad yn unig. Cadarnhaodd y grŵp y byddai, oherwydd byddai plant ar y rhestr o wahoddedigion, a byddai’n amhriodol bod y digwyddiad yn agored i bawb felly.

9          Unrhyw fater arall.

9.1       Gofynnodd Cecile a fyddai cyfarfod arall o’r grŵp trawsbleidiol yn cael ei gynnal cyn y digwyddiad lansio. Ychwanegodd Rhayna y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd gan nad oedd galw am gyfarfod arall cyn y digwyddiad. Cytunodd y grŵp y byddai’n briodol cynnal cyfarfod yn y flwyddyn newydd. Cadarnhaodd Rhayna y byddai hi’n cysylltu â’r grŵp yn y flwyddyn newydd ynghylch y cyfarfod nesaf, a fyddai yn Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ar ôl trafod y mater â Jocelyn.

CLOI